Mae'r gwaith ar ail flwyddyn ein prosiect creadigol wedi dechrau. Bydd Bl 5 a 6 dosbarth Mrs Lewis yn gweithio gyda 3 ymarferydd creadigol yn ystod y flwyddyn er mwyn datblygu sgiliau llafar, ysgrifennu a digidol wrth astudio ac animeiddio'r chwedl 'Y Ferch o Gefn Ydfa'. Dyma'r plant yn gweithio gyda ein ymarferydd creadigol cyntaf, yr actor Danny Grehan. Mae Danny wedi bod yn gweithio ar sgiliau llafar a pherfformio wrth adrodd stori.
All website content copyright © Ysgol Cynwyd Sant
Website Policy
Website design by PrimarySite