1. Mamma Mia
Croeso mawr i chi gyd,
I’n cyngerdd ‘Dolig ni.
Stori geni Crist,
Adroddwn ni i chi.
Stori wahanol, nid traddodiadol,
Duw eisiau dewis,
Cymeriadau i fod yn rhan,
O’i gynllun mawr ‘THE BIG PLAN!’
Sut fydd dewis cymeriadau ‘sgwn i?
Pwy fydd eisiau bod yn rhan o ddifri?
Wow.........
Mamma Mia, rhaid i ni ddewis,
Pwy? Pwy? Fydd yn rhan o’r cynllun?
Mamma Mia, rhaid i ni ddewis,
Pwy? Pwy? Fydd yn rhan o’r cynllun?
Rhaid cael pobl cyffredin,
Ceisio osgoi Herod y Brenin.
Pwy? Pwy? Fydd yn rhan o’r cynllun?
Mamma Mia, rhaid i ni wybod,
Pwy? Pwy? Pwy sy’n mynd i ddewis?
2. Cân Mair a Joseff / Cân olaf (Good Morning Baltimore)
2. Can Mair a Joseff
Wooow
Joseff a Mair o Nasareth bell yn canu,
Wooow
I ddangos i chi bo ni’n barod,
I fagu yr Iesu.
Par gonest a gwir, fe dd’wedwn yn glir,
Saer a morwyn yn fodlon gwas’naethu,
Wooow
Rhowch gyfle i ni i gael dangos i chi bo ni’n driw.
Carwn di Iesu,
Er anheilwng y teimlwn ni,
Rhown ein bywydau oll i ti,
Molianwn, clodforwn di.
Carwn di Iesu,
Cei pob cyfle a’n cariad cu,
Rhown bopeth o’n heiddo i ti,
Brenin Byd wyt ti!
3. Bugeiliaid a'r Angylion (Dancing Queen)
3. Bugeiliaid a’r Angylion (Dancing Queen)
Seiniwch Glod, Llawenhewch
Daeth baban yn frenin i’n byd
Www
Clywch lu’r nef, yn seinio’n un
Ganwyd Ceidwad Byd!
Gwelsom olau fry uwchben
Angel a ddaeth lawr o’r nen
Newyddion mwyaf llawen
Am eni Iesu Grist
Rhaid i ni fynd ar frys
Gwylion praidd yr oeddem ni,
Angylion glan yn canu fry,
Clywch eu can uwchlaw Bethlem,
Ganwyd Iesu Grist,
Awn i addoli’n syth,
Molianwn wir fab Duw!
Ef yw baban Mair,
Ei dad yn saer, gorwedd mewn gwely gwair.
Ef yw crewr Byd,
Heb wely na chrud, molwn ef o hyd.
Seiniwch Glod, Llawenhewch
Daeth baban yn frenin i’n byd
Www
Clywch lu’r nef, yn seinio’n un
Ganwyd Ceidwad Byd!
5. You Can't Stop the Beat
5. You can’t stop the beat
Mae’r cymeriadau gennym ni,
Ar gyfer stori enwoca’r byd,
Gwnaeth Simon, ‘Manda a David eu gwaith,
A’u dewis nhw i gyd.
Dangoson nhw y talent,
Gwneud y gwaith yn hawdd i ni.
Nawr mae’r byd yn troi o ddydd i ddydd,
A phawb yn ceisio byw yn ôl y ffydd,
Dewch mae’n amser dathlu nawr a llawenhau...
IESU BRENIN BYD!
Y doethion a’r bugeiliaid i gyd,
Mair a Joseff a’r angylion yn hedfan lan fry,
Dewch i ganu ac i ddawnsio
A rhoi DIOLCH mawr i Dduw....
AM IESU BRENIN BYD!
Y doethion a’r bugeiliaid i gyd,
Mair a Joseff a’r angylion yn hedfan lan fry,
Dewch i ganu ac i ddawnsio
A rhoi DIOLCH mawr i Dduw....
AM IESU BRENIN BYD!
Croeso i Ddosbarth Mr Weekley

Marc y Minion sydd yn mynd adref gyda Seren yr Wythnos bob Dydd Gwener.
Marc the Minion goes home with Star of the Week every Friday.
Hwyl y Nadolig
Dyma ni yn mwynhau dysgu am E-Ddiogelwch / Here we are enjoying learning about E-Safety
Diwrnod Crempogau yng Nghanolfan Fairfield / Pancake day at Fairfield Centre
Diwrnod y Llyfr / World Book Day