Scroll to content
Ysgol Cynwyd Sant home page

Ysgol Cynwyd Sant

Contact Details

Derbyn/Reception Mrs Walters

 

Dyma staff ein dosbarth ni.

Here are the staff.

 

Dyma amserlen yr wythnos i'ch helpu chi i gofio'r pethau pwysig.

Here is our weekly timetable to help you remember important things.

Dyma Smotyn, sy'n mynd adref gyda 'Seren yr wythnos' bob dydd Gwener. Mwynhewch y penwythnos!

This is Smotyn, who goes home with the 'Star of the Week' each Friday. Enjoy the weekend!

 

Dewch gyda ni i'r jyngl i gael hwyl a sbri!

Come with us to the jungle to have some fun!

Ein prosiect nesaf yw 'Ar lan y môr', ac rydym wedi mwynhau storiau am fôr-ladron a physgod, ac octopws - Sanau Newydd Sali. Gwnaethon ni ddarganfod trysor - wyau aur - gan ddilyn map y môr-leidr, arlunion ni bysgod a gwnaethon ni furlun tu fas...

Our next project is 'By the seaside', and we have enjoyed stories about pirates, fish and octopus - Sally's New Socks. We found hidden treasure - golden eggs - by following the pirates' map, we drew fish and made a collage outside...

Ydych chi'n gallu esbonio trefn y dydd? Ydych chi'n gallu darllen yr amser ar gloc? Rydyn ni wedi creu ein clociau ein hunain i'n helpu.

Can you tell us your daily routine? Can you tell the time? We made our own clocks to help us. 

Sul y Tadau Hapus!

Happy Fathers' Day!

 

Gwnaethon ni wasanaeth dosbarth ar y llyfr 'Mor Hyfryd yw'r Byd', gan adrodd y stori, ac wedyn enwi'r pethau rydym ni'n meddwl sydd yn hyfryd am ein byd anhygoel ni.

Our class assembly was based on the book 'What a Wonderful World', and we recited the story, and then talked about the things we think are wonderful about our amazing world.

Mwynheuon ni'n gwibdaith i Sain Ffagan ar gyfer yr Ŵyl Feithrin!

We enjoyed our trip to Saint Fagans for the Ŵyl Feithrin!

 

Rydyn ni wedi bod yn trafod bwyta'n iach, gan enwi bwydydd sydd yn dda i ni, a rhai sydd ddim yn iach. Gwnaethon ni gebab yr un, gan ddewis pethau iachus, ac un peth bach melys!

We have been discussing healthy food, naming food that is good for us, and others that are not. We each made a kebab, using healthy options, and one little sweet treat! 

Ydych chi'n gallu enwi'r siapiau 2D yn ein lluniau ni - triongl, cylch, petryal, a sgwâr?

Can you name the 2D shapes in our shape pictures - triangle, circle, rectangle and square?

Edrychon ni ar luniau'r arlynudd Claude Monet, a cheisio efelychu ei waith gan ddefnyddio offer gwahanol.

We looked at the artist Claude Monet's pictures, and tried to imitate his work using different media.

Rydyn ni wedi bod yn mesur ein gilydd, a threfnu ein gilydd o'r talaf i'r byrraf. Rydyn ni hefyd wedi bod yn defnyddio pethau o gwmpas y dosbarth i fesur.

We have been measuring each other, and ordering ourselves from the tallest to the shortest. We have also been using items from class to measure.

 

Rydyn ni'n mwynhau darganfod dyblau ac haneri, edrychwch ar ein lluniau a'n gwaith.

We enjoy discovering doubles and halves, look at our pictures and our work.

Mae plant yr Urdd wedi creu model ar y cyd yn seiliedig ar y thema 'y Dyfodol'.  

The Urdd members have completed a group project based on the theme 'The Future'.

Da iawn Ioan, Ellis, Reef, Josie, Grace a Gwennan!

 

Pasg Hapus i bawb! Happy Easter to you all! 

Edrychwch ar ein hetiau Pasg, a'r cardiau a basgedi gwnaethon ni!

Look at our Easter bonnets, and the cards and baskets we made. 

Rydyn ni wedi mwynhau'r helfa wyau Pasg! Roedd neges gan y Bwni Pasg i ddweud ei fod wedi cuddio wyau lliwiau gwahanol o gwmpas yr ysgol. Am hwyl a sbri!

We enjoyed the Easter egg hunt! The Easter bunny left a message to say that he had hidden different coloured eggs around the school. What fun and games!

Edrychwch beth ddaeth i'r ysgol heddiw! Cawsom hwyl a sbri yn cwrdd â gwahanol drychfilod, a dysgon ni lawer o ffeithiau diddorol. Mentron ni gyffwrdd a theimlo pethau byw amrywiol!

Look at what came to school today! We had lots of fun meeting different minibeasts, and we learned lots of interesting facts. We ventured to touch and feel a range of living things!

Rydym yn gwneud prosiect ar bengwiniaid drwy'r ysgol. Rydyn ni wedi bod yn datblygu ein sgiliau llythrennedd a rhifedd, a'n sgiliau corfforol. Rydyn ni hefyd wedi ymchwilio i sut i gadw pengwin yn sych.

We are doing a project on penguins throughout the school. We have been developing our literacy and numeracy skills, and our physical skills. We have also been investigating how to keep penguins dry.

 

Ymweliad Cwlwm Celtaidd i'r ysgol

Cwlwm Celtaidd visit school

cwlwm celtaidd 2.MOV

Still image for this video

cwlwm celtaidd1.MOV

Still image for this video

cwlwm celtaidd 3.MOV

Still image for this video

cwlwm celtaidd 4.MOV

Still image for this video

Diwrnod y Llyfr ~ World Book Day

 

Gwnaethon ni greu ein llyfrau ein hunain.

We made our own books.

Dydd Gŵyl Ddewi Hapus i chi! Happy Saint David's Day to you!

 

Arlunio Cennin Pedr ~ Drawing Daffodils

 

Dydd Mawrth Crempog - mmmmm, blasus iawn!

Pancake Day - mmmmm, very tasty!

Taflu crempog toes ~ tossing a play dough pancake

Still image for this video

Taflu crempog toes ~ tossing a play dough pancake

Still image for this video

Dysgon ni bwysigrwydd cadw ein dwylo ni'n lân er mwyn osgoi germau a bod yn sâl. Daeth y nyrs i ddysgu i ni sut i olchi dwylo'n gywir.

We learned the importance of keeping our hands clean to avoid germs and becoming ill. The nurse taught us how to wash our hands properly.

Sesiwn rygbi bach gyda merched yr Urdd

Rugby session with the Urdd

Codi arian i gefnogi Mr Urdd - Diwrnod coch, gwyn a gwyrdd.

Raising money to support Mr Urdd - Red, white and green day.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

Ein thema ni hanner tymor cyntaf y tymor yma ydy 'Brrrrr!', ac rydym ni wedi bod yn newid ein dosbarth ar gyfer y thema newydd.

Happy New Year to everyone!

Our theme this half term is 'Brrrrr!', and we have been changing our classroom ready for the new theme.

 

Dysgon ni am arferion y flwyddyn newydd, a thraddodiad y Fari Lwyd. Edrychon ni ar waith yr arlunydd William Brown oedd yn arfer peintio yn ei weithdy yn Llangynwyd. Gwnaethon ni efelychu ei waith.

We learned about new year celebrations, and the tradition of the Mari Lwyd. We looked at the work of local artist William Brown who used to paint in his workshop in Llangynwyd. We imitated his work.

Stori Sioni Rhew oedd ein sbardun ni ar gyfer arbrofion iâ. Daeth Sioni i'n dosbarth ni a dweud ei fod wedi cuddio parseli o iâ o gwmpas yr ysgol! Roedd rhaid i ni fynd ar helfa rhew!

The story Sioni Rhew - Jack Frost - was our starting point for ice experiments. Sioni came to our class and told us he'd hidden ice parcels around the school! We had to go on an ice hunt!

 

Ymarfer ein sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

Practising our literacy, numeracy and digital competency skills.

 

Symudon ni fel Sioni rhew, gan hercian cam a neidio llam gyda'r cyrff bach, pigog!

We moved like Sioni Rhew, hopping, jumping and leaping with our spikey bodies!

Ionawr y 25ain ydy Diwrnod Santes Dwynwen pan fydd cariadon Cymru'n danfon cerdyn cariad at ei gilydd. Gwnaethon ni greu calon rhewllyd er mwyn efelychu'r stori pan gafodd Maelon ei rewi.

January the 25th is Saint Dwynwen's Day when people in love in Wales send love cards to each other. We made frozen hearts to copy the story when Maelon was frozen in a block of ice.

Rydym wedi bod yn trefnu rhifau.

We have been ordering numbers.

Roedd tymor y Nadolig yn un prysur iawn! Edrychwch ar ein lluniau - sioe, cardiau, gwaith TGCh, mathemateg cyfrif defaid....

Christmas term was a busy one! Look at our pictures - a show, cards, ICT work, mathematics counting sheep.... 

Gwaith darllen a sillafu reading and spelling work

 

Dyma neges Nadolig i chi!

Here is our Christmas message for you!

 

Nadolig Llawen.MOV

Still image for this video

Ein thema ni yr hanner tymor cyntaf oedd 'Law yn Llaw', ac rydyn ni wedi trafod ffrindiau yn yr ysgol, aelodau'r teulu a ffrindiau yn ein cymuned. Daeth y dynion tân i'r ysgol i drafod sut maen nhw'n cadw pobl Maesteg yn ddiogel. Cawsom hwyl a sbri yn gweld Miss Thomas yn gwisgo gwisg arbennig y swyddogion tân! Cawsom ni dro yn defnyddio'r biben ddŵr!

Our theme the first half term was 'Hand in Hand', and we talked about school friends, family members and friends in our community. The firemen came to visit to talk about how they keep Maesteg's residents safe. We had lots of fun seeing Miss Thomas dressing in the fire officers' uniform! We had a turn using the water hose!

Rydyn ni wedi dewis adnoddau i ddarlunio ein hunain gyda'n ffrindiau ni. Rydyn ni wedi bod yn ymarfer y patrwm 'Mae gen i....' i siarad am liw ein gwallt a lliw ein llygiad ni.

We have been choosing resources to make pictures of ourselves with our friends. We have practised the language pattern 'Mae gen i / I have...' to talk about the colour of our hair and eyes.

Mae'r tywydd wedi oeri - mae tymor yr Hydref wedi dod! Aethon ni mas i ddawnsio fel dail y coed yn troelli yn y gwynt. Chwilion ni am bethau gwahanol yn ein gardd ysgol.

The weather has become colder - Autumn has come! We went outdoors to dance like leaves swirling in the wind. We looked for different things in our school garden. 

Cyn hanner tymor, gwnaethon ni'r stori 'Un Diwrnod Oer' fel ffocws i'n gweithgareddau. Action ni'r stori tu fas, a gwnaethon ni ddraenogod clai.

Before half term, we used the story 'Un Diwrnod Oer - One Cold Day' as a focus for our activities. We acted the story outdoors, and made clay hedgehogs.

Casglon ni ddail a brigau ac hadau fel tasg gwaith cartref, a defnyddion ni chwyddwydrau er mwyn gweld y lliwiau a'r patrymau oedd ynddynt. Wedyn, darlunion ni'r hyn a welsom.

We collected leaves and twigs and seeds as a homework task, and used magnifying glasses to see the colours and patterns on them. Then we drew what we saw.

Defnyddion ni ein lleisiau ac offerynnau cerddorol er mwyn creu'r seiniau yn y stori - y gwynt a'r storm eira.

We used our voices and musical instruments to create the sounds in the story - the wind and the snowstorm.

Cawsom gerdyn oddi wrth Draenog Bach yn diolch i ni am ei helpu i ddewis dillad cynnes i'w gwisgo yn y tywydd oer! Danfonon ni e-bost yn ôl ato a gwneud cardiau diolch iddo hefyd.

Draenog Bach sent us a thank you card for helping him to choose warm clothes to wear in the cold weather! We sent him an e-mail and made thank you cards for him.

Dysgon ni am anifeiliaid sy'n gaeafgysgu, ac sy'n paratoi am y gaeaf drwy gasglu bwyd ac adeiladu nythod. Daeth crwban i'r dosbarth - dyma 'Jeff'!

We learned about animals that hibernate, and prepare for winter by collecting food and building nests. A tortoise came into class - this is 'Jeff'! 

Aethon ni ar helfa fwyd gan ddefnyddio I-pads. Roedd yn rhaid i ni ddilyn cliwiau côd 'qr' er mwyn dod o hyd i fwyd i Draenog bach. Wedyn, roedd angen didoli'r bwyd gan fod rhai bwydydd yn beryglus i ddraenogod.

We went on a food hunt using I-pads. We had to follow 'qr' codes to find the food for little Hedgehog. Then, we had to sort the food because some foods are dangerous for hedgehogs. 

Gwnaethon ni lolis i ddraenogod, gan ddefnyddio bwyd sydd yn ddiogel iddynt, eu hoff fwyd. Wedyn, aethon ni tu fas i roi'r lolis mewn lle addas iddyn nhw.

We made hedgehog lollies using food that is safe for them to eat, their favourite food. Then we went outdoors to hide them in places where hedgehogs go.

Daeth Fflic a Fflac i wneud sioe Nadolig i ni - am hwyl a sbri!

Fflic and Fflac came to do a Christmas show for us - what fun!

Codon ni arian ar gyfer Plant Mewn Angen drwy wisgo smotiau a streipiau i'r ysgol. Gwnaethon ni bypedau Pydsi gan ymarfer ein sgiliau rheoli siswrn.

We raised money for Children in Need by wearing spots and stripes to school. We made Pudsey puppets practising our scissor control.

Rydyn ni wedi bod yn gwella ein sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfrif hefyd. Mae edafu yn helpu ein bysedd i gryfhau.

We have also been improving our reading, writing and counting skills. Threading helps strengthen our fingers.

Dyma ni yn ymarfer ein sgiliau corfforol - neidio, rhedeg, cydbwyso, taflu a dal, a dawnsio fel dail yr Hydref gan ddefnyddio rhubanau amryliw.

Look at us practising our physical skills - jumping, running, balancing, throwing and catching, and dancing like swirling Autumn leaves using multi-coloured ribbons.

Rydyn ni wedi bod yn ymarfer arddodiaid drwy chwarae ar y teganau meddal mawr.

We have been practising prepositions through playing on the soft play equipment.

 

Roedden ni'n gyffro i gyd ar gyfer Noson Tân Gwyllt! Gwnaethon ni sbarclyrs bwyd allan o fwyd iach - grawnwin, a bwyd sy ddim yn iach - malws melys, mmm! Dysgon ni dechnegau gwahanol i greu lluniau lliwgar, a gwnaethon ni rocedi 3D ar gyfer cyfri'n ôl. Gwnaethon ni bosteri i ddysgu sut i gadw'n ddiogel.

We were all excited about Fireworks Night! We made food sparklers out of healthy food - grapes, and unhealthy food - marshmallows, mmm! We learnt different techniques to make colourful pictures, and made 3D rockets for our different countdowns. We made posters to learn how to be safe..

Rydym ni wedi bod yn gwrando'n ofalus i ddilyn cyfarwyddiadau er mwyn plygu cerdyn i greu het tri chornel.

We have been listening carefully to follow instructions to fold card to make a three cornered hat.

 

Ydych chi'n gallu copio neu ailadrodd patrwm? Edrychwch ar ein patrymau ni!

Can you copy or repeat a pattern? Look at our patterns!

Dal offer marcio'n gywir - da iawn!

Holding mark making instruments correctly - well done!

 

Allwch chi drefnu rhifau? Allwch chi gyfrif o rifau gwahanol?

Can you order numbers? Can you count on from different numbers?

Da iawn i'r gwenyn gweithgar yma am gau eu cotiau'n annibynnol!

Well done to these busy bees for fastening their coats on their own!

Allwch chi weld rhai o gymeriadau Roald Dahl fan hyn?

Can you spot some of Rald Dahl's characters here?

Rydyn ni wedi ymgartrefu yn ein dosbarth newydd. Dyma ni'n cael hwyl a sbri!

We have made ourselves at home in our new class. Here we are having fun!

Ysgol Cynwyd Sant, Pen-Yr-Ysgol, Maesteg, Bridgend, Wales, CF34 9YE Tel: 01656 815615