Scroll to content
Ysgol Cynwyd Sant home page

Ysgol Cynwyd Sant

Contact Details

Derbyn/Reception Mrs Walters

 

Mrs Walters' Class  

      

Croeso ~ Welcome 

 

Dyma staff y dosbarth here are our staff

 

  

            Mrs Walters             Mrs Davidson           Mrs Howells

 

 

 

Dyma amserlen wythnosol ein dosbarth

Here is our weekly timetable

   

 

 

 

Seren yr Wythnos ~ Star of the Week

 

          

 

Dyma 'Smotyn' sy'n mynd adref gyda seren yr wythnos bob dydd Gwener. Rydyn ni'n hoffi cael hwyl a sbri gyda Smotyn!

Here is 'Smotyn' (Spotty) who goes home with the star of the week each Friday. We like having fun with Smotyn!

 

  

 

Penblwydd Hapus Mistar Urdd yn 40! Cawsom ni barti!

Happy 40th birthday Mr Urdd! We had a party!

Gweithgareddau diweddar - Recent Activities

Edrychwch ar ein lluniau o fwystfilod bychain!

Look at our pictures of minibeasts!

Creu offerynnau cerddorol gartref a chreu rhythmau gwahanol Making musical instruments at home to create different rhythms

Mabolgampau'r plant derbyn 2016 ~ Reception children's Sports Day 2016

Diwrnod Pêl-droed Football Day

Sgorio gôl ac ennill pwyntiau Score a goal and win points

Diolch yn FAWR i bawb wnaeth noddi eu plant!

A HUGE thanks to all those who sponsored their children!

Hwyl a sbri yn Fferm Wiggleys ar gyfer yr Ŵyl Feithrin!

Lots of fun and games at Wiggleys Farm for the Ŵyl Feithrin!

Daeth Carys John o Ffa La La i wneud sesiwn symud a chân gyda ni - am hwyl a sbri!

Carys John from Ffa La La came to do a music and movement session with us - what fun!

Rydyn ni wedi bod yn darllen y stori 'Rydyn ni'n mynd i hela arth' fel rhan o thema 'Anifeiliaid', a gwnaethon ni greu'r stori mewn smotyn byd bach er mwyn ailadrodd y stori.

We have been reading the story 'We're going on a bear hunt' as part of the theme 'Animals', and we created the story in our small world spot to retell the story.

Gweithgareddau am y stori

Activities based on the story

Sul y Tadau Hapus! Happy Fathers' Day!

Ar y 19eg o Fai, perfformion ni ein gwasanaeth dosbarth o flaen ein teuluoedd a phlant y Cyfnod Sylfaen. Dyma ni yn ymarfer stori'r Creu o'r Beibl.

On 19th of May, we performed our class assembly in front of our families and the pupils in the Foundation Phase. Here we are practicing the story of Creation from the Bible.

 

Thema'r tymor yma ydy 'Awn am dro', ac rydyn ni wedi dechrau drwy fynd am dro o gwmpas tir yr ysgol i weld pa ardaloedd rydyn ni'n eu hoffi a pha rai mae angen gwella.

This term's theme is 'Let's go for a walk', and we began by going for a walk around the school grounds to see which were our favourite areas and which need improving.

Rydyn ni wedi creu siop lyfrau yn ein dosbarth er mwyn ymarfer ein sgiliau cyfrif arian ac i siarad Cymraeg.

We have set up a book shop in class to practice our money counting skills and to speak Welsh. 

Mae parsel cyffrous wedi cyrraedd y dosbarthiadau dan bump - lindys byw! Rydyn ni'n gwylio nhw'n tyfu ac yn trafod sut maent yn newid.

An exciting parcel has arrived in the under fives classes - live caterpillars! We are watching them grow and talking about how they are changing.

Rydyn ni wedi mwynhau rasio ein gilydd i weld pwy sy'n gallu cyrraedd y pen yn gyntaf wrth roi cylchoedd ar y ffyn! Rhaid canolbwyntio, dyfalbarhau a dangos sgiliau edafu da.

We have enjoyed racing each other to see who can reach the top of the stick first when threading hoops on sticks! We need to concentrate, persevere and show good threading skills.

Hwyl a sbri wrth gyfrif!

Fun with counting!

 

Pasg Hapus! Happy Easter!

Hwyl a sbri yn codi arian ar gyfer 'Sport Relief'!

Fun and games raising money for 'Sport Relief'!

Daeth ymwelwyr i'n gweld ni i rannu cerddoriaeth hyfryd y delyn.

Visitors came to see us to share beautiful harp music.

 

Ein thema ni am yr hanner tymor nesaf ydy 'Owain a'r Deinosoriaid'. Byddwn  yn edrych ar anifeiliaid sy'n dod allan o wyau gan arwain at ddathlu'r Pasg.

Our theme this half term is 'Owain and the Dinosaurs'. We will be looking at animals which hatch from eggs leading onto celebrating Easter.

Ar ôl hanner tymor, daeth parseli arbennig i'r dosbarthiadau meithrin a derbyn - deorfa yn llawn wyau ieir. Edrychwch ar y lluniau isod i weld beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd!

After half term,  special parcels arrived for the nursery and reception classes - an incubator full of chickens' eggs. Look at the pictures below to see what happens from day to day!

Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ein sgiliau llythrennedd drwy chwilio am wyau ac adeiladu geiriau gan ddefnyddio'r llythrennau sy'n cuddio tu fewn iddynt - am hwyl!

We have been practicing our literacy skills by searching for eggs, and building words using the letters that we found hiding inside - what fun!

Rydyn ni'n hoffi cyfrif gan ddefnyddio matiau rhif hefyd.

We enjoy counting using number mats too.

Edrychwch ar ein gwaith cartref ar gywion ac wyau!

Look at our homework on chicks and eggs!

Rydyn ni wedi bod yn defnyddio gêm cywion mewn nyth i ddysgu sut i ysgrifennu symiau a datrys problemau.

We have been using a chicks in the nest game to learn how to write sums and solve problems.

 

Daeth adar ysglyfaethus i'r ysgol heddiw!

Birds of prey came to school today!

 

Blwyddyn Newydd Tsieiniaidd Hapus!

Happy Chinese New Year!

Daeth ymwelwyr o Tsieina i ddathlu gyda ni, gan adrodd stori am hanes y dathlu, creu mygydau mwncïod gyda ni, dysgu i ni sut i gyfrif yn Tseiniaidd, a dysgu dawns y llew i ni - am hwyl a sbri!

Visitors from China came to school to celebrate with us, telling us a story of the history of the celebration, making monkey masks with us, teaching us how to count in Chinese, and teaching us the lion dance - what fun!

Click on the icon below to link to the story.

Cliciwch ar yr icon isod i glywed y stori.

Dathlon ni ddydd Mawrth Crempog drwy greu, coginio a blasu crempogau oer a phoeth - mmm!

We celebrated Pancake Day by making, cooking and tasting hot and cold pancakes - mmm!

 

Rydyn ni wedi cael ymwelwyr yn ddiweddar! Mae Mistar Urdd a Sali Mali a Dewin wedi bod i'n gweld ni!

We have had visitors lately! Mr Urdd and Sali Mali and Dewin have been to see us!

 

Rydyn ni wedi bod yn dysgu mwy am siapiau, gan enwi siapiau 2D/ fflat. Mwynheuon ni greu lluniau cyffrous gan ddefnyddio siapiau megis cylchoedd, trionglau, petryalau, sgwariau, calonnau ac hecsagonau. Ydych chi'n gallu gweld eich llun chi?

We have been learning more about shapes, naming 2D/flat shapes. We enjoyed creating exciting pictures using shapes such as circles, triangles, rectangles, squares, hearts and hexagons. Can you see your picture?

Blwyddyn Newydd Dda! Happy New Year!

Rydyn ni wedi bod yn edrych ar waith yr arlunydd William Brown, oedd yn byw ym Maesteg. Peintiodd e'r Fari Lwyd - traddodiad Cymreig ar gyfer y flwyddyn newydd, sydd yn dal i ddigwydd ym Maesteg. Edrychwch ar ein lluniau!

We have been looking at the work of the artist William Brown who lived in Maesteg. He painted the 'Fari Lwyd' - a Welsh tradition for the new year, which still takes place in Maesteg. Look at our pictures!

Cafodd Smotyn anrhegion hyfryd oddi wrth Sion Corn! Cafodd e byjamas newydd a ffrind newydd hefyd - tedi bach o'r enw "Llwyd".

Smotyn had some lovely presents from Santa! He had new pyjamas and a new friend too - a little teddy called "Llwyd".

Mae Ionawr y 25ain yn ddiwrnod Santes Dwynwen yng Nghymru. Defnyddion ni sgiliau mathemateg i drefnu calonau meintiau gwahanol i greu pili-pala i roi i rywun rydyn ni'n eu caru.

January 25th is Saint Dwynwen's day in Wales. We used our mathematical skills to order different sized hearts to make a butterfly for someone we love.

 

Ym mis Ionawr, daeth ymwelwyr o wlad Brasil i'n hysgol. Dysgon ni lawer o bethau am y wlad - pa fath o faner sydd gyda nhw, ble mae Brasil yn y byd, a pha fath o le ydy hi. Edrychon ni ar waith arlunydd o'r enw Romero Britto, a'u luniau o anifeiliaid. Peintion ni anifeiliaid sydd i'w gweld ym Mrasil - ydych chi'n gallu dyfalu pa anifeiliaid ydyn nhw?

In January, visitors from Brazil came to school. We learned lots of facts about the country - about their flag, where Brazil is located in the world, and what type of place it is. We looked at the work of an artist called Romero Britto, and his pictures of animals. We also painted pictures of animals found in Brazil - can you guess which ones we painted? 

Cawsom ni hwyl a sbri pan ddaeth Tecnicwest atom i wneud sesiwn cerddorol!

We had lots of fun when Techniquest came to school to do a music session!

 

Rydyn ni wedi bod yn gwneud patrymau ailadroddus gan ddefnyddio lliwiau, siapiau a phethau naturiol. Dyma rai o'n patrymau ni.

We have been making repeating patterns using colours, shapes and natural things. Here are some of our patterns.

 

Rydyn ni'n hoffi gemau mathemateg, a dyma ni yn gwisgo hetiau rhif, a dod o hyd i'r teil Numicon cywir.

We like mathematical games, and here we are wearing number hats, and finding the correct Numicon tile.

Rydym yn cofnodi rhif y dydd yn ddyddiol.

We record the number of the day daily.

Rydyn ni wrth ein boddau'n canu caneuon rhif hefyd. Ar ôl dysgu'r gân 'Mae gen i het tri chornel', gwnaethon ni ein hetiau ein hunain gan wrando'n ofalus ar gyfarwyddiadau i blygu'r cerdyn. Ydych chi'n hoffi'r addurniadau?

We really enjoy singing number rhymes too. After learning the song 'Mae gen i het tri chornel - I've got a three cornered hat', we made our own hats by listening carefully to instructions on how to fold the card. Do you like the way we decorated them?

Dyma ni yn dal pysgod rhif yng Nghornel Sali Sws - am hwyl a sbri!

Here we are catching number fish in Sali Sws's corner - what fun!

 

Rydyn ni'n hoffi trefnu sanau rhif hefyd.

We enjoy ordering number socks too.

Rydyn ni'n hoffi defnyddio offer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i gefnogi ein gwaith llythrennedd a rhifedd.

We enjoy using Information Communications Technology equipment to support our literacy and numeracy work.

 

Da iawn i'r plant yma sydd wedi cwrdd â'u targed o wisgo cot a chau cot yn annibynnol!

Well done to these children who have met their target of putting on their coats and fastening them independently!

 

Ym mis Tachwedd roedd diwrnod Plant Mewn Angen. Codon ni arian drwy wisgo lan, a gwneud bisgedi Pydsi - mmm, blasus!

In November it was Children in Need Day. We raised money through dressing up and we made Pudsey biscuits - mmm, blasus!

 

Dysgon ni sut i ddal siswrn yn gywir, gan ymarfer ein sgiliau torri allan. Edrychwch ar ein pypedau symudol!

We learned how to hold and control scissors correctly, practicing our skills. Look at our moving puppets! 

Rydyn ni'n gweithio'n galed i ymarfer ein sgiliau ysgrifennu - mae ffurfio llythrennau'n gywir yn bwysig!

We work hard to practise our writing skills - forming letters correctly is important!

Mae'n hwyl i ddefnyddio gwahanol bethau yn y dosbarth i'n helpu ni i ymarfer ein sgiliau darllen a sillafu. Dyma ni yn creu geiriau Tric a Chlic yn y toes.

It's fun using different objects in class to help us practise our reading and spelling skills. Here we are creating Tric a Chlic words in the playdough.

A dyma ni'n adeiladu waliau jig-so geiriau.

And here we are building jig-saw word walls.

 

Daeth Louise Richards i'r dosbarth i ddysgu i ni sut i olchi dwylo'n ofalus, a chofio pryd i olchi dwylo.

Louise Richards came into class to teach us how to wash our hands properly, and to remember when to wash our hands.  

Rydyn ni wedi bod yn dathlu'r Cynhaeaf drwy ganu caneuon, mwynhau straeon a chasglu bwydydd ar gyfer y banc bwyd. Daeth crwban bach i'r dosbarth cyn mynd i aeafgysgu, ac rydyn ni wedi casglu dail yr Hydref a'u hargraffu.

We have been celebrating Harvest by singing songs, enjoying stories and collecting food for the food bank. A baby tortoise came to visit us before hibernating, and we have been collecting Autumn leaves to print. 

Dysgon ni am anifeiliaid sy'n gaeafgysgu a sut mae'r byd yn newid o'n cwmpas yn yr Hydref.

We learned about animals who hibernate and how the world around us changes in the Autumn.

Dysgon ni dechnegau newydd i greu lluniau o dân gwyllt. Edrychwch ar ein lluniau!

We learned new techniques to make pictures of fireworks.

Look at our pictures!

 

Rydyn ni wedi ymarfer ein sgiliau cyfrif ac ysgrifennu rhifau i greu rocedi tân gwyllt.

We have practiced our counting skills and writing numbers to create firework rockets.

 

Ein thema ni cyn y Nadolig ydy 'Pobl sy'n ein helpu', a daeth PC Evans i siarad â ni am yr heddlu, a sut maen nhw'n helpu yn y gumuned. Mwynheuon ni wisgo'r hetiau gwahanol!

Our theme leading up to Christmas is 'People who help us', and PC Evans came to talk to us about how the police help us in our community. We enjoyed trying on the different hats and helmets!

Rydyn ni wedi bod yn defnyddio ein sgiliau llythrennedd i labelu rhannau'r corff gan ddefnyddio lluniau o bobl yn ein cymuned sy'n ein helpu ni. Gwnaethon ni fap meddwl er mwyn trafod pwy sy'n ein helpu.

We have been using our literacy skills to label parts of the body using pictures of people in our community who help us. We made a mind map to discuss who these people are.

Mwynheuon ni chwarae rôl yn ein meddygfa. Dysgon ni sut i ymarfer ein sgiliau rhifedd a llythrennedd wrth chwarae.

We enjoyed role playing in our class surgery. We learned how to practice our literacy and numeracy skills through play.

Dyma wal Rhifau Rhagorol - rydyn ni wedi cyfrif rhannau'r corff.

Here is the Big Maths wall - we have been counting parts of the body.

Postion ni syrpreis adref i ddysgu am waith y postmon.

We posted a surprise home to learn about the work of the postman.

Rydyn ni wedi bod yn defnyddio ein synhwyrau i ddysgu sut i ddidoli. Blason ni fwyd coch a melyn, ac roedd yn rhaid i ni osod y bwyd i mewn i setiau lliw, ac yn y canol roedd y bwyd roedden ni'n ei hoffi.

We have been using our senses to learn how to sort objects into sets. We tasted yellow and red food, and we had to place each item into the correct set, and in the middle was the food we liked to eat.

Rydyn ni wedi mwynhau dysgu caneuon a geiriau'r gyngerdd Nadolig. Dyma ni yn ein gwisgoedd.

We have enjoyed learning songs and words for the Christmas concert. Here we are in our costumes.

Rydyn ni wedi mwynhau defnyddio offer gwahanol i wneud crefft Nadolig ~ cerdyn, pyped, calendr ac addurn angel. Defnyddion ni ein llawysgrifen orau i roi neges yn ein cardiau.

We have enjoyed using different materials to do Christmas craft ~ a card, puppet, calendar and an angel decoration. We used our best handwriting to write a message inside the cards.

Cawsom syrpreis heddiw! Daeth ymwelydd i'n gweld ni!

We had a surprise today! A visitor came to see us!

Ysgol Cynwyd Sant, Pen-Yr-Ysgol, Maesteg, Bridgend, Wales, CF34 9YE Tel: 01656 815615